Pwy sy'n ddoeth a deallus yn eich plith? Gadewch i hwnnw, trwy ei ymarweddiad da, ddangos ei weithredoedd mewn gwyleidd-dra sy'n dod o ddoethineb. Ond os ydych yn coleddu eiddigedd chwerw ac uchelgais hunanol yn eich calon, peidiwch ag ymffrostio a dweud celwydd yn erbyn y gwirionedd. Nid dyma'r ddoethineb sy'n disgyn oddi uchod; peth daearol yw, peth bydol a chythreulig. Oherwydd lle bynnag y mae cenfigen ac uchelgais hunanol, yno hefyd y mae anhrefn a phob gweithred ddrwg. Ond am y ddoethineb sydd oddi uchod, y mae hon yn y lle cyntaf yn bur, ac yna'n heddychol, yn dirion, yn hawdd ymwneud â hi, yn llawn o drugaredd a'i ffrwythau daionus, yn ddiragfarn ac yn ddiragrith. Y mae cynhaeaf cyfiawnder yn cael ei hau mewn heddwch i'r rhai sy'n gwneud heddwch.
Darllen Iago 3
Gwranda ar Iago 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Iago 3:13-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos