Llefarodd yr ARGLWYDD eto wrth Ahas, a dweud, “Gofyn am arwydd gan yr ARGLWYDD dy Dduw, arwydd o ddyfnder Sheol neu o uchder nefoedd.” Ond atebodd Ahas, “Ni ofynnaf, ac nid wyf am osod yr ARGLWYDD ar brawf.” Dywedodd yntau, “Gwrandewch yn awr, tŷ Dafydd. Ai peth bach yn eich golwg yw trethu amynedd pobl, a'ch bod am drethu amynedd fy Nuw hefyd? Am hynny, y mae'r ARGLWYDD ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel. Bydd yn bwyta menyn a mêl pan ddaw i wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da. Cyn i'r plentyn wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da, fe ddifrodir tir y ddau frenin yr wyt yn eu hofni. Bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnat ti ac ar dy bobl ac ar dŷ dy dad ddyddiau na fu eu tebyg er pan dorrodd Effraim oddi wrth Jwda—brenin Asyria.”
Darllen Eseia 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 7:10-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos