Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyr nad ydynt yn tewi ddydd na nos; chwi sy'n galw ar yr ARGLWYDD, peidiwch â distewi, na rhoi llonydd iddo, nes iddo sefydlu Jerwsalem, a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd. Tyngodd yr ARGLWYDD i'w ddeheulaw ac i'w fraich nerthol, “Ni roddaf dy ŷd byth eto'n ymborth i'th elyn, ac ni chaiff dieithriaid yfed y gwin y llafuriaist amdano; ond y rhai a'i casgla fydd yn bwyta, ac yn diolch i'r ARGLWYDD amdano; y rhai a'i cynnull fydd yn yfed oddi mewn i gynteddau fy nghysegr.” Ewch i mewn, ewch i mewn drwy'r pyrth, paratowch ffordd i'r bobloedd; codwch briffordd a symudwch y cerrig, dyrchafwch arwydd i'r bobloedd. Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDD i bellafoedd y ddaear, “Dywedwch wrth ferch Seion, ‘Y mae dy achubydd yn dyfod; y mae ei wobr yn ei law, ac y mae ei dâl ganddo.’ ” Fe'u gelwir hwy yn Bobl Sanctaidd, Gwaredigion yr ARGLWYDD, ac fe'th elwir di, Yr un a geisiwyd, Dinas nas gwrthodwyd.
Darllen Eseia 62
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 62:6-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos