Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb, a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’ “Os symudi'r gorthrwm ymaith, os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam, os rhoddi o'th fodd i'r anghenus, a diwallu angen y cystuddiol, yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch, a bydd y caddug fel canol dydd. Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser, yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych, ac yn cryfhau dy esgyrn; yna byddi fel gardd ddyfradwy, ac fel ffynnon ddŵr a'i dyfroedd heb ballu. Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnod ac yn codi ar yr hen sylfeini; fe'th elwir yn gaewr bylchau, ac yn adferwr tai adfeiliedig.
Darllen Eseia 58
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 58:9-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos