“Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais:
tynnu ymaith rwymau anghyfiawn,
a llacio clymau'r iau,
gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd,
a dryllio pob iau?
Onid rhannu dy fara gyda'r newynog,
a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ,
dilladu'r noeth pan y'i gweli,
a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?
Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr,
a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan;
bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen,
a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.
Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb,
a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’
“Os symudi'r gorthrwm ymaith,
os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam,
os rhoddi o'th fodd i'r anghenus,
a diwallu angen y cystuddiol,
yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch,
a bydd y caddug fel canol dydd.
Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser,
yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych,
ac yn cryfhau dy esgyrn;
yna byddi fel gardd ddyfradwy,
ac fel ffynnon ddŵr
a'i dyfroedd heb ballu.
Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnod
ac yn codi ar yr hen sylfeini;
fe'th elwir yn gaewr bylchau,
ac yn adferwr tai adfeiliedig.
“Os peidi â sathru'r Saboth dan draed,
a pheidio â cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd,
ond galw'r Saboth yn hyfrydwch,
a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus;
os anrhydeddi ef, trwy beidio â theithio,
na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun