Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 54:1-17

Eseia 54:1-17 BCND

“Cân di, y wraig ddi-blant na chafodd esgor; dyro gân, bloeddia ganu, ti na phrofaist wewyr esgor; oherwydd y mae plant y wraig a adawyd yn lluosocach na phlant y wraig briod,” medd yr ARGLWYDD. “Helaetha faint dy babell, estyn allan lenni dy drigfannau; gollwng y rhaffau allan i'r pen, a sicrha'r hoelion. Oherwydd byddi'n ymestyn i'r dde ac i'r chwith; bydd dy had yn disodli'r cenhedloedd, ac yn cyfanheddu dinasoedd anrheithiedig. Paid ag ofni, oherwydd ni chywilyddir di, ni ddaw gwaradwydd na gwarth arnat; oherwydd fe anghofi gywilydd dy ieuenctid, ac ni chofi bellach am warth dy Weddwdod. Oherwydd yr un a'th greodd yw dy ŵr— ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw; Sanct Israel yw dy waredydd, a Duw yr holl ddaear y gelwir ef. Fel gwraig wedi ei gadael, a'i hysbryd yn gystuddiol, y galwodd yr ARGLWYDD di— gwraig ifanc wedi ei gwrthod,” medd dy Dduw. “Am ennyd fechan y'th adewais, ond fe'th ddygaf yn ôl â thosturi mawr. Am ychydig, mewn dicter moment, cuddiais fy wyneb rhagot; ond â chariad di-baid y tosturiaf wrthyt,” medd yr ARGLWYDD, dy Waredydd. “Y mae hyn i mi fel dyddiau Noa, pan dyngais nad âi dyfroedd Noa byth mwyach dros y ddaear; felly tyngaf na ddigiaf wrthyt ti byth mwy, na'th geryddu ychwaith. Er i'r mynyddoedd symud, ac i'r bryniau siglo, ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,” medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt. “Y druan helbulus, ddigysur! Rwyf am osod dy feini mewn morter, a'th sylfeini mewn saffir. Gwnaf dy dyrau o ruddem, a'th byrth o risial; bydd dy fur i gyd yn feini dethol, a'th adeiladwyr oll wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD. Daw llwyddiant mawr i'th blant, a byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder; byddi'n bell oddi wrth orthrymder, heb ofn arnat, ac oddi wrth ddychryn, na ddaw'n agos atat. Os bydd rhai yn ymosod arnat, nid oddi wrthyf fi y daw hyn; bydd pwy bynnag sy'n ymosod arnat yn cwympo o'th achos. Edrych, myfi a greodd y gof, sy'n chwythu'r marwor yn dân, ac yn llunio arf at ei waith; myfi hefyd a greodd y dinistrydd i ddistrywio. Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn; gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth,” medd yr ARGLWYDD.