Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio a gwneud iddo ddioddef. Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod, fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau, ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef. Wedi helbulon ei fywyd fe wêl oleuni, a chael ei fodloni yn ei wybodaeth; bydd fy ngwas yn cyfiawnhau llawer, ac yn dwyn eu camweddau. Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrion ac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn, oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth, a chael ei gyfrif gyda throseddwyr, a dwyn pechodau llaweroedd, ac eiriol dros y troseddwyr.
Darllen Eseia 53
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 53:10-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos