Cofiwch y pethau gynt, ymhell yn ôl; oherwydd myfi sydd Dduw, ac nid arall, yn Dduw heb neb yn debyg i mi. Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd, ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud. Dywedaf, ‘Fe saif fy nghyngor, a chyflawnaf fy holl fwriad.’ Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain, a gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell. Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben, fe'i lluniais ac fe'i gwnaf. Gwrandewch arnaf fi, chwi bobl ystyfnig, chwi sy'n bell oddi wrth gyfiawnder. Paraf i'm cyfiawnder nesáu; nid yw'n bell, ac nid oeda fy iachawdwriaeth. Rhof iachawdwriaeth yn Seion, a'm gogoniant i Israel.”
Darllen Eseia 46
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 46:9-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos