Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog,
yr un y gafaelais yn ei law
i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen,
i ddiarfogi brenhinoedd,
i agor dorau o'i flaen,
ac ni chaeir pyrth rhagddo:
“Mi af o'th flaen di
i lefelu'r mynyddoedd;
torraf y dorau pres,
a dryllio'r barrau haearn.
Rhof iti drysorau o leoedd tywyll,
wedi eu cronni mewn mannau dirgel,
er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,
Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.
Er mwyn fy ngwas Jacob,
a'm hetholedig Israel,
gelwais di wrth dy enw,
a'th gyfenwi, er na'm hadwaenit.
Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;
ar wahân i mi nid oes Duw.
Gwregysais di, er na'm hadwaenit,
er mwyn iddynt wybod,
o godiad haul hyd ei fachlud,
nad oes neb ond myfi.
Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall,
yn llunio goleuni
ac yn creu tywyllwch,
yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant;
myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.
“Defnynnwch oddi fry, O nefoedd;
tywallted yr wybren gyfiawnder.
Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth egino
ac i gyfiawnder flaguro.
Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.
“Gwae'r sawl sy'n ymryson â'i luniwr,
darn o lestr yn erbyn y crochenydd.
A ddywed y clai wrth ei luniwr, ‘Beth wnei di?’
neu, ‘Nid oes graen ar dy waith’?
Gwae'r sawl sy'n dweud wrth dad, ‘Beth genhedli di?’
neu wrth wraig, ‘Ar beth yr esgori?’ ”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,
Sanct Israel a'i luniwr:
“A ydych yn fy holi i am fy mhlant,
ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?
Myfi a wnaeth y ddaear,
a chreu pobl arni;
fy llaw i a estynnodd y nefoedd,
a threfnu ei holl lu.
Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth,
ac unioni ei holl lwybrau.
Ef fydd yn codi fy ninas,
ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd,
ond nid am bris nac am wobr,”
medd ARGLWYDD y Lluoedd.