Eseia 29
29
Gwae ar Ddinas Dafydd
1Gwae Ariel, Ariel,
y ddinas lle gwersyllodd Dafydd.
Gadewch i'r blynyddoedd fynd heibio,
aed y gwyliau yn eu cylch;
2yna dygaf gyfyngder ar Ariel,
a bydd galar a chwynfan;
bydd yn Ariel#29:2 H.y., Allor danllyd. mewn gwirionedd i mi.
3Gwersyllaf o'th gwmpas fel cylch,
gwarchaeaf o'th amgylch â thyrau,
codaf offer gwarchae yn dy erbyn.
4Fe'th ddarostyngir, a byddi'n llefaru o'r pridd,
ac yn sisial dy eiriau o'r llwch;
daw dy lais fel llais ysbryd o'r pridd,
daw sibrwd dy eiriau o'r llwch.
5Ond bydd tyrfa dy elynion fel llwch mân,
a thyrfa dy gaseion fel us yn mynd heibio;
yna'n sydyn, ar amrantiad,
6fe'th gosbir gan ARGLWYDD y Lluoedd
â tharan a daeargryn a sŵn mawr,
â storm a thymestl a fflam dân ysol.
7Bydd holl dyrfa'r cenhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Ariel,
yn erbyn ei holl amddiffynfa a'i chadernid, ac yn ei gormesu,
fel breuddwyd, fel gweledigaeth nos—
8fel y bydd y newynog yn breuddwydio ei fod yn bwyta,
ac yn deffro a'i gael ei hun yn wag,
fel y bydd y sychedig yn breuddwydio ei fod yn yfed,
ac yn deffro a'i gael ei hun yn wan a sychedig.
Felly y bydd gyda thyrfa'r holl genhedloedd
sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
9Safwch yn syn a syfrdan, yn ddall a hurt;
ewch yn feddw, ond nid ar win,
yn chwil, ond nid ar ddiod gadarn.
10Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trwmgwsg;
caeodd eich llygaid, sef y proffwydi,
a gorchuddiodd eich pennau, sef y gweledyddion.
11Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sêl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio.” 12Ac os rhoddir ef i un na all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni fedraf ddarllen.”
13Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD,
“Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf
a thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig,
ond eu calon ymhell oddi wrthyf,
a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,
14am hynny wele fi'n gwneud rhyfeddod eto,
ac yn syfrdanu'r bobl hyn;
difethir doethineb eu doethion
a chuddir deall y rhai deallus.”
15Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfn
i gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD;
am fod eu gwaith yn y tywyllwch,
dywedant, “Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?”
16Troi popeth o chwith yr ydych.
A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai?
A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr,
“Nid ef a'm gwnaeth”?
A ddywed y llestr am ei luniwr, “Nid yw'n deall”?
17Onid ychydig bach fydd eto
nes troi Lebanon yn ddoldir,
a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir?
18Yn y dydd hwnnw bydd y rhai byddar yn clywed geiriau o lyfr,
a llygaid y deillion yn gweld allan o'r tywyllwch dudew.
19Caiff y rhai llariaidd eto lawenychu yn yr ARGLWYDD,
a'r tlotaf o bobl ymffrostio yn Sanct Israel.
20Darfu am y rhai creulon, peidiodd y rhai trahaus,
torrir ymaith bob un sy'n barod i wneud drygioni,
21a phawb sy'n cyhuddo dyn o gamwedd,
yn gosod magl i'r un sy'n erlyn yn y porth,
ac yn atal barn trwy dwyllo'r cyfiawn.
22Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Jacob, y Duw a waredodd Abraham:
“Nid yw'n amser i Jacob gywilyddio,
nac yn awr i'w wyneb welwi;
23pan wêl ef ei blant, gwaith fy nwylo o'i fewn,
fe sancteiddiant fy enw,
sancteiddiant Sanct Jacob,
ac ofnant Dduw Israel;
24a bydd y rhai cyfeiliornus o ysbryd yn dysgu deall,
a'r rhai gwrthnysig yn derbyn gwers.”
Dewis Presennol:
Eseia 29: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004