Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddi i'th dderbyn pan gyrhaeddi; bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod, pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear; gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd, sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd. Bydd pob un ohonynt yn ymateb, ac yn dy gyfarch fel hyn: “Aethost tithau'n wan fel ninnau; yr wyt yr un ffunud â ni.” Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol, yn sŵn miwsig dy nablau; oddi tanat fe daenir y llyngyr, a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid. O fel y syrthiaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd. Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd, dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf; eisteddaf ar y mynydd cynnull ym mhellterau'r Gogledd. Dringaf yn uwch na'r cymylau; fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.” Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd, i lawr i ddyfnderau'r pwll. Bydd y rhai a'th wêl yn synnu a phendroni drosot, a dweud, “Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a ysgytiodd deyrnasoedd? Ai hwn a droes y byd yn anialwch, a dinistrio'i ddinasoedd heb ryddhau ei garcharorion i fynd adref?” Gorwedd holl frenhinoedd y cenhedloedd mewn anrhydedd, pob un yn ei le ei hun; ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd, fel erthyl a ffieiddir; fe'th orchuddiwyd â chelanedd wedi eu trywanu â chleddyf, ac yn disgyn i waelodion y pwll, fel cyrff wedi eu sathru dan draed.
Darllen Eseia 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 14:9-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos