“Clywch hyn, offeiriaid; gwrandewch, dŷ Israel;
daliwch sylw, dylwyth y brenin. Arnoch chwi y daw'r farn,
am i chwi fod yn fagl yn Mispa ac yn rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor;
gwnaethant bwll Sittim yn ddwfn. Ond fe gosbaf fi bawb ohonynt.
“Adwaenais Effraim, ac ni chuddiodd Israel ei hun oddi wrthyf;
ond yn awr, O Effraim, fe buteiniaist, ac fe'i halogodd Israel ei hun.
Ni chaniatâ eu gweithredoedd iddynt droi at eu Duw,
am fod ysbryd puteindra o'u mewn, ac nad adwaenant yr ARGLWYDD.”
Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;
syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd,
syrth Jwda hefyd gyda hwy.
Ânt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD,
ond heb ei gael—ciliodd oddi wrthynt.
Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon.
Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd eu rhandiroedd.
“Canwch utgorn yn Gibea a thrwmped yn Rama;
rhowch floedd yn Beth-afen: ‘Ar dy ôl di, Benjamin!’
Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi;
mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.
Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn;
bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.
Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn,
oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd.
Byddaf fel dolur crawnllyd i Effraim,
ac fel cancr i dŷ Jwda.
“Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau,
aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr;
ond ni all ef eich gwella na'ch iacháu o'ch doluriau.
Oherwydd yr wyf fi fel llew i Effraim, ac fel llew ifanc i dŷ Jwda;
myfi, ie myfi, a larpiaf, ac af ymaith; cipiaf, ac ni bydd gwaredydd.
“Dychwelaf drachefn i'm lle, nes iddynt weld eu bai,
a chwilio amdanaf, a'm ceisio yn eu hadfyd.”