“Y mae puteindra, gwin a gwin newydd yn dwyn ymaith y deall. Y mae fy mhobl yn ymofyn â phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo; oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd, troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw. Y maent yn aberthu ar bennau'r mynyddoedd, ac yn offrymu ar y bryniau, o dan y dderwen, y boplysen a'r terebinth am fod eu cysgod yn dda. “Am hynny, y mae eich merched yn puteinio a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu. Ni chosbaf eich merched pan buteiniant, na'ch merched-yng-nghyfraith pan odinebant, oherwydd y mae'r dynion yn troi at buteiniaid ac yn aberthu gyda phuteiniaid y cysegr. Pobl heb ddeall, fe'u difethir. “Er i ti buteinio, Israel, na fydded Jwda'n euog. Peidiwch â mynd i Gilgal, nac i fyny i Beth-afen, a pheidiwch â thyngu, ‘Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw.’ Fel heffer anhydrin y mae Israel yn anodd ei thrin; a all yr ARGLWYDD yn awr eu bwydo fel oen mewn porfa? “Glynodd Effraim wrth eilunod; gadawer iddo. Cwmni o feddwon wedi ymollwng i buteindra! Syrthiodd ei arweinwyr mewn cariad â gwarth. Clymodd y gwynt hwy yn ei adenydd, a chywilyddiant oherwydd eu haberthau.”
Darllen Hosea 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hosea 4:11-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos