Plediwch â'ch mam, plediwch—
onid yw'n wraig i mi,
a minnau'n ŵr iddi hi?—
ar iddi symud ei phuteindra o'i hwyneb,
a'i godineb oddi rhwng ei bronnau.
Onid e, byddaf yn ei diosg yn noeth a'i gosod fel ar ddydd ei geni,
a'i gwneud fel anialwch a'i gosod fel tir sych,
a'i lladd â syched;
ni wnaf drugaredd â'i phlant,
am eu bod yn blant puteindra.
Oherwydd i'w mam buteinio,
ac i'r hon a'u cariodd ymddwyn yn waradwyddus,
a dweud, ‘Af ar ôl fy nghariadon,
sy'n rhoi imi fy mara a'm dŵr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diod’—
am hynny, caeaf ei ffordd â drain,
a gosodaf rwystr rhag iddi gael ei llwybrau.
Fe ymlid ei chariadon heb eu dal,
fe'u cais heb eu cael;
yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf,
gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’
Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew,
ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal.
Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor;
dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.
Yn awr, dinoethaf ei gwarth gerbron ei chariadon,
ac ni fyn yr un ohonynt ei chipio o'm llaw.
Rhof derfyn ar ei holl lawenydd,
ei gwyliau, ei newydd-loerau, ei Sabothau a'i gwyliau sefydlog.
Difethaf ei gwinwydd a'i ffigyswydd, y dywedodd amdanynt,
‘Dyma fy nhâl, a roes fy nghariadon i mi.’
Gwnaf hwy'n goedwig, a bydd yr anifeiliaid gwylltion yn eu difa.
Cosbaf hi am ddyddiau gŵyl y Baalim, pan losgodd arogldarth iddynt,
a gwisgo'i modrwy a'i haddurn,
a mynd ar ôl ei chariadon a'm hanghofio i,” medd yr ARGLWYDD.
ARGLWYDD
“Am hynny, wele, fe'i denaf;
af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi.
Rhof iddi yno ei gwinllannoedd,
a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith.
Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid,
fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.”
“ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal’; symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau. Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch. Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd. Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”
“ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD,
‘atebaf y nef, ac etyb hithau y ddaear;
etyb y ddaear yr ŷd, y gwin a'r olew,
ac atebant hwythau Jesreel;
ac fe'i heuaf i mi fy hun yn y tir.
Gwnaf drugaredd â Lo-ruhama;
dywedaf wrth Lo-ammi, “Fy-mhobl wyt ti”,
a dywed yntau, “Fy Nuw”.’ ”