Y mae Effraim yn bugeilio gwynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd; amlhânt dwyll a thrais; gwnânt gytundeb ag Asyria, a dygant olew i'r Aifft. Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda; fe gosba Jacob yn ôl ei ffyrdd, a thalu iddo yn ôl ei weithredoedd. Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd, ac wedi iddo dyfu ymdrechodd â Duw. Ymdrechodd â'r angel a gorchfygu; wylodd a cheisiodd ei ffafr. Ym Methel y cafodd ef, a siarad yno ag ef— ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yr ARGLWYDD yw ei enw. A thithau, trwy nerth dy Dduw, dychwel, cadw deyrngarwch a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser. Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrus yn caru gorthrymu. Dywedodd Effraim, “Yn wir, rwy'n gyfoethog, ac enillais olud; yn fy holl enillion ni cheir na drygioni na phechod.” “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th ddygodd o wlad yr Aifft; gwnaf iti eto drigo mewn pebyll, fel yn nyddiau'r ŵyl sefydlog. “Lleferais wrth y proffwydi; ac amlheais weledigaethau a dangos gwers trwy'r proffwydi. Am fod eilunod yn Gilead, pethau cwbl ddiddim; am fod aberthu teirw yn Gilgal, bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrig ar rychau'r meysydd.” Ffodd Jacob i dir Aram; gwasanaethodd Israel am wraig; am wraig y cadwodd ddefaid. Trwy broffwyd y dygodd yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef. Cythruddodd Effraim ef yn chwerw, a bydd i'w Arglwydd ei adael yn ei euogrwydd, a throi ei waradwydd yn ôl arno.
Darllen Hosea 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hosea 12:1-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos