Oherwydd wrth un mwy y bydd pobl yn tyngu; ac y mae llw yn rhoi gwarant sydd yn derfyn ar bob dadl rhyngddynt. Felly, pan ewyllysiodd Duw brofi'n llwyrach i etifeddion yr addewid mor ddigyfnewid yw ei fwriad, fe roddodd warant drwy lw, er mwyn i ddau beth digyfnewid, dau beth yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt, beri i ni sydd wedi ffoi am noddfa dderbyn symbyliad cryf i ymaflyd yn y gobaith a osodwyd o'n blaen. Y mae'r gobaith hwn gennym fel angor i'n bywyd, un diogel a chadarn, ac un sy'n mynd trwodd i'r tu mewn i'r llen, lle y mae Iesu wedi mynd, yn rhagredegydd ar ein rhan, wedi ei wneud yn archoffeiriad am byth, yn ôl urdd Melchisedec.
Darllen Hebreaid 6
Gwranda ar Hebreaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 6:16-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos