O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis, ac ar ran pobl feidrol y caiff ei benodi i'w cynrychioli mewn materion yn ymwneud â Duw, i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau. Y mae'n gallu cydymddwyn â'r rhai anwybodus a chyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid; ac oherwydd y gwendid hwn, rhaid iddo offrymu dros bechodau ar ei ran ei hun, fel ar ran y bobl. Nid oes neb yn cymryd yr anrhydedd iddo'i hun; Duw sydd yn ei alw, fel y galwodd Aaron. Felly hefyd gyda Christ. Nid ei ogoneddu ei hun i fod yn archoffeiriad a wnaeth, ond Duw a ddywedodd wrtho: “Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw.” Fel y mae'n dweud mewn lle arall hefyd: “Yr wyt ti'n offeiriad am byth yn ôl urdd Melchisedec.” Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu weddïau ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn. Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd, ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo
Darllen Hebreaid 5
Gwranda ar Hebreaid 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 5:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos