Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 4:1-13

Hebreaid 4:1-13 BCND

Gochelwn, felly, rhag i neb ohonoch fod wedi eich cau allan megis, a'r addewid yn aros y cawn ddod i mewn i'w orffwysfa ef. Oherwydd fe gyhoeddwyd y newyddion da, yn wir, i ni fel iddynt hwythau, ond ni bu'r gair a glywsant o unrhyw fudd iddynt hwy, am nad oeddent wedi eu huno mewn ffydd â'r sawl oedd wedi gwrando ar y gair. Oblegid nyni, y rhai sydd wedi credu, sydd yn mynd i mewn i'r orffwysfa, yn unol â'r hyn a ddywedodd: “Felly tyngais yn fy nig, ‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ” Ac eto yr oedd ei waith wedi ei orffen er seiliad y byd. Oherwydd y mae gair yn rhywle am y seithfed dydd fel hyn: “A gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.” Felly hefyd yma: “Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.” Felly, gan ei bod yn sicr y bydd rhai yn cael dod i mewn iddi, a chan fod y rhai y cyhoeddwyd y newyddion da iddynt gynt heb ddod i mewn oherwydd anufudd-dod, y mae ef drachefn yn pennu dydd neilltuol, sef “Heddiw”, gan lefaru trwy Ddafydd ar ôl cymaint o amser, fel y dyfynnwyd o'r blaen: “Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch â chaledu'ch calonnau.” Oherwydd petai Josua wedi rhoi gorffwys iddynt, ni byddai Duw wedi sôn ar ôl hynny am ddiwrnod arall. Felly, y mae gorffwysfa'r Saboth yn aros yn sicr i bobl Dduw. Oherwydd mae pwy bynnag a ddaeth i mewn i'w orffwysfa ef yn gorffwys oddi wrth ei waith, fel y gorffwysodd Duw oddi wrth ei waith yntau. Gadewch inni ymdrechu, felly, i fynd i mewn i'r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio o achos yr un math o anufudd-dod. Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon. Nid oes dim a grewyd yn guddiedig o'i olwg, ond y mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd