Felly, gyfeillion, gan fod gennym hyder i fynd i mewn i'r cysegr drwy waed Iesu, ar hyd ffordd newydd a byw y mae ef wedi ei hagor inni drwy'r llen, hynny yw, trwy ei gnawd ef; a chan fod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw, gadewch inni nesáu â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân. Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae'r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon. Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.
Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach; dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr. Os bydd unrhyw un wedi diystyru Cyfraith Moses, caiff ei ladd yn ddidrugaredd ar air dau neu dri o dystion. Ystyriwch gymaint llymach yw'r gosb a fernir yn haeddiant i'r hwn sydd wedi mathru Mab Duw, ac wedi cyfrif yn halogedig waed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo, ac wedi difenwi Ysbryd grasol Duw. Oherwydd fe wyddom pwy a ddywedodd:
“Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl”;
ac eto:
“Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”
Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw.
Cofiwch y dyddiau gynt pan fu i chwi, wedi eich goleuo, sefyll yn gadarn yng ngornest fawr eich cystuddiau: weithiau, yn eich gwaradwydd a'ch cystuddiau, yn cael eich gwneud yn sioe i'r cyhoedd, ac weithiau yn gymdeithion i'r rhai oedd yn cael eu trin felly. Oherwydd cyd-ddioddefasoch â'r carcharorion, a derbyniasoch mewn llawenydd ysbeilio'ch meddiannau, gan wybod fod meddiant rhagorach ac arhosol yn eiddo i chwi. Peidiwch felly â thaflu eich hyder i ffwrdd, gan fod gwobr fawr yn perthyn iddo. Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o'r hyn a addawyd. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur:
“Ymhen ennyd, ennyd bach,
fe ddaw yr hwn sydd i ddod, a heb oedi;
ond fe gaiff fy un cyfiawn i fyw trwy ffydd,
ac os cilia'n ôl,
ni bydd fy enaid yn ymhyfrydu ynddo.”
Eithr nid pobl y cilio'n ôl i ddistryw ydym ni, ond pobl â ffydd sy'n mynd i feddiannu bywyd.