Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy'r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab. Hwn yw'r un a benododd Duw yn etifedd pob peth, a'r un y gwnaeth y bydysawd drwyddo. Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth â'i air nerthol. Ar ôl iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder, wedi dyfod gymaint yn uwch na'r angylion ag y mae'r enw a etifeddodd yn rhagorach na'r eiddynt hwy.
Oherwydd wrth bwy o'r angylion y dywedodd Duw erioed:
“Fy Mab wyt ti,
myfi a'th genhedlodd di heddiw”?
Ac eto:
“Byddaf fi yn dad iddo ef,
a bydd yntau yn fab i mi.”
A thrachefn, pan yw'n dod â'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud:
“A bydded i holl angylion Duw ei addoli.”
Am yr angylion y mae'n dweud:
“Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd,
a'i weinidogion yn fflam dân”;
ond am y Mab:
“Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol,
a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.
Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith.
Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinio
ag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.”
Y mae hefyd yn dweud:
“Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear,
a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.
Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros;
ânt hwy i gyd yn hen fel dilledyn;
plygi hwy fel plygu mantell,
a newidir hwy fel newid dilledyn;
ond tydi, yr un ydwyt,
ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd.”
Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef erioed:
“Eistedd ar fy neheulaw
nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed”?
Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?