Gwrandawodd Sorobabel fab Salathiel a Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu Duw a geiriau Haggai, y proffwyd a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw; ac ofnodd y bobl o flaen yr ARGLWYDD. Yna llefarodd Haggai, cennad yr ARGLWYDD, neges yr ARGLWYDD i'r bobl: “Yr wyf fi gyda chwi,” medd yr ARGLWYDD. A chynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac ysbryd Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, a gweddill y bobl; a daethant a dechrau gweithio ar dŷ ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw hwy
Darllen Haggai 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Haggai 1:12-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos