Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth. Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, “Trais!” a thithau heb waredu? Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod? Anrhaith a thrais sydd o'm blaen, cynnen a therfysg yn codi. Am hynny, â'r gyfraith yn ddirym, ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo; yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn, a daw cyfiawnder allan yn wyrgam. ARGLWYDD “Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch; rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu; oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaith na choeliech, pe dywedid wrthych.
Darllen Habacuc 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Habacuc 1:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos