Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth.
Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth,
a thithau heb wrando,
ac y llefaf arnat, “Trais!”
a thithau heb waredu?
Pam y peri imi edrych ar ddrygioni,
a gwneud imi weld trallod?
Anrhaith a thrais sydd o'm blaen,
cynnen a therfysg yn codi.
Am hynny, â'r gyfraith yn ddirym,
ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo;
yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn,
a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.
ARGLWYDD
“Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch;
rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu;
oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaith
na choeliech, pe dywedid wrthych.
Oherwydd wele, yr wyf yn codi'r Caldeaid,
y genedl greulon a gwyllt,
sy'n ymdaith ledled y ddaear
i feddiannu cartrefi nad ydynt yn eiddo iddynt.
Arswydus ac ofnadwy ydynt,
yn dilyn eu rheolau a'u hawdurdod eu hunain.
Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard,
yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr,
ac yn ysu am fynd.
Daw ei farchogion o bell,
yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth.
Dônt i gyd i dreisio,
a bydd dychryn o'u blaen;
casglant gaethion rif y tywod;
gwawdiant frenhinoedd
a dirmygant arweinwyr;
dirmygant bob amddiffynfa,
a gosod gwarchae i'w meddiannu.
Yna rhuthrant heibio fel gwynt—
dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth.”
Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD,
fy Nuw sanctaidd na fyddi farw?
O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn;
O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.
Ti, sydd â'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg,
ac na elli oddef camwri,
pam y goddefi bobl dwyllodrus,
a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus
yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?
Pam y gwnei bobl fel pysgod y môr,
fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli?
Coda hwy i fyny â bach, bob un ohonynt,
a'u dal mewn rhwydau,
a'u casglu â llusgrwydau;
yna mae'n llawenhau ac yn gorfoleddu,
yn cyflwyno aberth i'w rhwydau
ac yn arogldarthu i'r llusgrwydau,
am mai trwyddynt hwy y caiff fyw'n fras
a bwyta'n foethus.
A ydyw felly i wagio'r rhwydau'n ddiddiwedd,
a lladd cenhedloedd yn ddidostur?