Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Habacuc 1:1-17

Habacuc 1:1-17 BCND

Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth. Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, “Trais!” a thithau heb waredu? Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod? Anrhaith a thrais sydd o'm blaen, cynnen a therfysg yn codi. Am hynny, â'r gyfraith yn ddirym, ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo; yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn, a daw cyfiawnder allan yn wyrgam. ARGLWYDD “Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch; rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu; oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaith na choeliech, pe dywedid wrthych. Oherwydd wele, yr wyf yn codi'r Caldeaid, y genedl greulon a gwyllt, sy'n ymdaith ledled y ddaear i feddiannu cartrefi nad ydynt yn eiddo iddynt. Arswydus ac ofnadwy ydynt, yn dilyn eu rheolau a'u hawdurdod eu hunain. Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard, yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr, ac yn ysu am fynd. Daw ei farchogion o bell, yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth. Dônt i gyd i dreisio, a bydd dychryn o'u blaen; casglant gaethion rif y tywod; gwawdiant frenhinoedd a dirmygant arweinwyr; dirmygant bob amddiffynfa, a gosod gwarchae i'w meddiannu. Yna rhuthrant heibio fel gwynt— dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth.” Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD, fy Nuw sanctaidd na fyddi farw? O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn; O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd. Ti, sydd â'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg, ac na elli oddef camwri, pam y goddefi bobl dwyllodrus, a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun? Pam y gwnei bobl fel pysgod y môr, fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli? Coda hwy i fyny â bach, bob un ohonynt, a'u dal mewn rhwydau, a'u casglu â llusgrwydau; yna mae'n llawenhau ac yn gorfoleddu, yn cyflwyno aberth i'w rhwydau ac yn arogldarthu i'r llusgrwydau, am mai trwyddynt hwy y caiff fyw'n fras a bwyta'n foethus. A ydyw felly i wagio'r rhwydau'n ddiddiwedd, a lladd cenhedloedd yn ddidostur?

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Habacuc 1:1-17