Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 5:1-27

Genesis 5:1-27 BCND

Dyma lyfr cenedlaethau Adda. Pan greodd Duw bobl, gwnaeth hwy ar lun Duw. Fe'u creodd yn wryw ac yn fenyw, a bendithiodd hwy; ac ar ddydd eu creu fe'u galwodd yn ddyn. Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth. Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill. Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw. Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos. Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw. Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan. Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw. Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel. Ac wedi geni Mahalalel, bu Cenan fyw am wyth gant pedwar deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. Felly yr oedd oes gyfan Cenan yn naw cant a deg o flynyddoedd; yna bu farw. Bu Mahalalel fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Jered. Ac wedi geni Jered, bu Mahalalel fyw am wyth gant tri deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. Felly yr oedd oes gyfan Mahalalel yn wyth gant naw deg a phump o flynyddoedd; yna bu farw. Bu Jered fyw am gant chwe deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Enoch. Ac wedi geni Enoch, bu Jered fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill. Felly yr oedd oes gyfan Jered yn naw cant chwe deg a dwy o flynyddoedd; yna bu farw. Bu Enoch fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Methwsela. Wedi geni Methwsela, rhodiodd Enoch gyda Duw am dri chan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill. Felly yr oedd oes gyfan Enoch yn dri chant chwe deg a phump o flynyddoedd. Rhodiodd Enoch gyda Duw, ac yna nid oedd mwyach, oherwydd cymerodd Duw ef. Bu Methwsela fyw am gant wyth deg a saith o flynyddoedd cyn geni iddo Lamech. Ac wedi geni Lamech, bu Methwsela fyw am saith gant wyth deg a dwy o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. Felly yr oedd oes gyfan Methwsela yn naw cant chwe deg a naw o flynyddoedd; yna bu farw.