Felly cymerodd y dynion yr anrheg a dwbl yr arian, a Benjamin gyda hwy, ac aethant ar eu taith i lawr i'r Aifft, a sefyll gerbron Joseff.
Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda hwy, dywedodd wrth swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i'r tŷ, a lladd anifail a gwna wledd, oherwydd bydd y dynion yn bwyta gyda mi ganol dydd.” Gwnaeth y swyddog fel y gorchmynnodd Joseff iddo, a daeth â'r dynion i dŷ Joseff. Ond yr oedd ar y dynion ofn pan gymerwyd hwy i dŷ Joseff, ac meddent, “Y maent wedi dod â ni i mewn yma oherwydd yr arian a roddwyd yn ôl yn ein sachau y tro cyntaf. Byddant yn rhuthro ac yn ymosod arnom, a'n gwneud yn gaethion, a chipio ein hasynnod.” Aethant at swyddog tŷ Joseff a siarad ag ef wrth ddrws y tŷ, a dweud, “Ein harglwydd, daethom i lawr o'r blaen i brynu bwyd; wrth inni agor ein sachau yn y llety yr oedd arian pob un yn llawn yng ngenau ei sach. Yr ydym wedi dod â hwy'n ôl gyda ni, ac y mae gennym arian eraill hefyd i brynu bwyd. Ni wyddom pwy a osododd ein harian yn ein sachau.” Atebodd yntau, “Byddwch dawel, peidiwch ag ofni; eich Duw a Duw eich tad a guddiodd drysor i chwi yn eich sachau; derbyniais i eich arian.” Yna daeth â Simeon allan atynt. Wedi i'r swyddog fynd â'r dynion i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddynt i olchi eu traed, a rhoddodd fwyd i'w hasynnod. Gwnaethant eu hanrheg yn barod erbyn i Joseff ddod ganol dydd, am iddynt glywed mai yno y byddent yn cael bwyd.
Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, dygasant ato yr anrheg oedd ganddynt, ac ymgrymu i'r llawr o'i flaen. Holodd yntau hwy am eu hiechyd, a gofyn, “A yw eich tad yn iawn, yr hen ŵr y buoch yn sôn amdano? A yw'n dal yn fyw?” Atebasant, “Y mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach.” A phlygasant eu pennau ac ymgrymu. Cododd yntau ei olwg a gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam ef ei hun, a gofynnodd, “Ai dyma eich brawd ieuengaf, y buoch yn sôn amdano?” A dywedodd wrtho, “Bydded Duw yn rasol wrthyt, fy mab.” Yna brysiodd Joseff a chwilio am le i wylo, oherwydd cyffrowyd ei deimladau o achos ei frawd. Aeth i'w ystafell ac wylo yno. Yna golchodd ei wyneb a daeth allan gan ymatal, a dywedodd, “Dewch â'r bwyd.” Gosodwyd bwyd iddo ef ar wahân, ac iddynt hwy ar wahân, ac i'r Eifftiaid oedd yn bwyta gydag ef ar wahân; oherwydd ni allai'r Eifftiaid gydfwyta gyda'r Hebreaid, am fod hynny'n ffieidd-dra ganddynt. Yr oeddent yn eistedd o'i flaen, y cyntafanedig yn ôl ei flaenoriaeth a'r ieuengaf yn ôl ei ieuenctid; a rhyfeddodd y dynion ymysg ei gilydd. Cododd Joseff seigiau iddynt o'i fwrdd ei hun, ac yr oedd cyfran Benjamin bum gwaith yn fwy na chyfran y lleill. Felly yfasant a bod yn llawen gydag ef.