Deng mlwydd ar hugain oedd oed Joseff pan safodd gerbron Pharo brenin yr Aifft. Aeth allan o ŵydd Pharo, a thramwyodd trwy holl wlad yr Aifft. Yn ystod y saith mlynedd o lawnder cnydiodd y ddaear yn doreithiog, a chasglodd yntau yr holl fwyd a gaed yng ngwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a chrynhoi ymborth yn y dinasoedd. Casglodd i bob dinas fwyd y meysydd o'i hamgylch. Felly pentyrrodd Joseff ŷd fel tywod y môr, nes peidio â chadw cyfrif, am na ellid ei fesur. Cyn dyfod blwyddyn y newyn, ganwyd i Joseff ddau fab o Asnath, merch Potiffera offeiriad On. Enwodd Joseff ei gyntafanedig Manasse—“Am fod Duw wedi peri imi anghofio fy holl gyni a holl dylwyth fy nhad.” Enwodd yr ail Effraim—“Am fod Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yng ngwlad fy ngorthrymder.” Darfu'r saith mlynedd o lawnder yng ngwlad yr Aifft; a dechreuodd y saith mlynedd o newyn, fel yr oedd Joseff wedi dweud. Bu newyn yn yr holl wledydd, ond yr oedd bwyd yn holl wlad yr Aifft. A phan ddaeth newyn ar holl wlad yr Aifft, galwodd y bobl ar Pharo am fwyd. Dywedodd Pharo wrth yr holl Eifftiaid, “Ewch at Joseff, a gwnewch yr hyn a ddywed ef wrthych.” Ac fel yr oedd y newyn yn ymledu dros wyneb yr holl dir, agorodd Joseff yr holl ystordai a gwerthodd ŷd i'r Eifftiaid, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm yng ngwlad yr Aifft. Daeth pobl o'r holl wledydd hefyd i'r Aifft at Joseff i brynu, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm drwy'r byd i gyd.
Darllen Genesis 41
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 41:46-57
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos