Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 41

41
Dehongli Breuddwydion Pharo
1Ymhen dwy flynedd union breuddwydiodd Pharo ei fod yn sefyll ar lan y Neil. 2A dyma saith o wartheg porthiannus a thew yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd; 3ac yna saith o wartheg eraill, nychlyd a thenau, yn esgyn ar eu hôl ac yn sefyll ar lan yr afon yn ymyl y gwartheg eraill. 4Bwytaodd y gwartheg nychlyd a thenau y saith buwch borthiannus a thew. Yna deffrôdd Pharo. 5Aeth yn ôl i gysgu a breuddwydio eilwaith, a gwelodd saith dywysen fras a da yn tyfu ar un gwelltyn; 6yna saith dywysen denau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl. 7Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen fras a llawn. Yna deffrôdd Pharo a deall mai breuddwyd ydoedd. 8Pan ddaeth y bore, yr oedd wedi cynhyrfu ac anfonodd am holl ddewiniaid a doethion yr Aifft; dywedodd Pharo ei freuddwyd wrthynt, ond ni allai neb ei dehongli iddo.
9Yna dywedodd y pen-trulliad wrth Pharo, “Rwy'n cofio heddiw imi fod ar fai. 10Pan ffromodd Pharo wrth ei weision a'm rhoi i a'r pen-pobydd yn y ddalfa yn nhŷ pennaeth y gwarchodwyr, 11cawsom ein dau freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun. 12Ac yno gyda ni yr oedd llanc o Hebrëwr, gwas pennaeth y gwarchodwyr; wedi inni eu hadrodd iddo, dehonglodd ein breuddwydion i'r naill a'r llall ohonom. 13Fel y dehonglodd inni, felly y bu; adferwyd fi i'm swydd, a chrogwyd y llall.”
14Yna anfonodd Pharo am Joseff, a daethant ag ef ar frys o'r gell; eilliodd yntau a newid ei ddillad, a daeth at Pharo. 15A dywedodd Pharo wrth Joseff, “Cefais freuddwyd, ac ni all neb ei dehongli, ond clywais amdanat ti dy fod yn gallu gwrando breuddwyd a'i dehongli.” 16Atebodd Joseff Pharo a dweud, “Nid myfi; Duw a rydd ateb ffafriol i Pharo.” 17Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn sefyll ar lan y Neil, 18a dyma saith o wartheg tew a phorthiannus yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd; 19ac yna saith o wartheg eraill truenus a nychlyd a thenau iawn, yn dod ar eu hôl; ni welais rai cynddrwg yn holl dir yr Aifft. 20Bwytaodd y gwartheg tenau a nychlyd y saith o wartheg tewion cyntaf, 21ond er iddynt eu bwyta nid oedd ôl hynny arnynt, gan eu bod mor denau â chynt. Yna deffroais. 22Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd saith o dywysennau llawn a da yn tyfu ar un gwelltyn; 23a dyma saith dywysen fain a thenau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl. 24Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen dda. Adroddais hyn wrth y dewiniaid, ond ni allai neb ei egluro i mi.”
25Yna dywedodd Joseff wrth Pharo, “Un ystyr sydd i freuddwyd Pharo; y mae Duw wedi mynegi i Pharo yr hyn y mae am ei wneud. 26Y saith o wartheg da, saith mlynedd ydynt, a'r saith dywysen dda, saith mlynedd ydynt; un freuddwyd sydd yma. 27Saith mlynedd hefyd yw'r saith o wartheg tenau a nychlyd a esgynnodd ar eu hôl, a saith mlynedd o newyn yw'r saith dywysen wag wedi eu deifio gan wynt y dwyrain. 28Fel y dywedais wrth Pharo, y mae Duw wedi dangos i Pharo yr hyn y mae am ei wneud. 29Daw saith mlynedd o lawnder mawr trwy holl wlad yr Aifft, 30ond ar eu hôl daw saith mlynedd o newyn, ac anghofir yr holl lawnder yng ngwlad yr Aifft; difethir y wlad gan y newyn, 31ac ni fydd ôl y llawnder yn y wlad o achos y newyn hwnnw fydd yn ei ddilyn, gan mor drwm fydd. 32Dyblwyd breuddwyd Pharo am fod y peth mor sicr gan Dduw, a bod Duw ar fin ei gyflawni. 33Yn awr, dylai Pharo edrych am ŵr deallus a doeth i'w osod ar wlad yr Aifft. 34Dyma a ddylai Pharo ei wneud: gosod arolygwyr dros y wlad, i gymryd y bumed ran o gnwd gwlad yr Aifft dros y saith mlynedd o lawnder. 35Dylent gasglu holl fwyd y blynyddoedd da sydd ar ddod, a thrwy awdurdod Pharo, dylent gasglu ŷd yn ymborth i'w gadw yn y dinasoedd, 36fel y bydd y bwyd ynghadw i'r wlad dros y saith mlynedd o newyn sydd i fod yng ngwlad yr Aifft, rhag i'r wlad gael ei difetha gan y newyn.”
Joseff yn Rheolwr yr Aifft
37Bu'r cyngor yn dderbyniol gan Pharo a'i holl weision. 38A dywedodd Pharo wrth ei weision, “A fedrwn ni gael gŵr arall fel hwn ag ysbryd Duw ynddo?” 39Felly dywedodd Pharo wrth Joseff, “Am i Dduw roi gwybod hyn oll i ti, nid oes neb mor ddeallus a doeth â thi; 40ti fydd dros fy nhŷ, a bydd fy holl bobl yn ufudd i ti; yr orsedd yn unig a'm gwna i yn fwy na thi.” 41Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dyma fi wedi dy osod di'n ben ar holl wlad yr Aifft,” 42a thynnodd ei fodrwy oddi ar ei law a'i gosod ar law Joseff, a gwisgo amdano ddillad o liain main, a rhoi cadwyn aur am ei wddf. 43Parodd iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai i weiddi o'i flaen, “Plygwch lin.”#41:43 Cymh. Fersiynau. Hebraeg yn ansicr. Felly gosododd Pharo ef dros holl wlad yr Aifft. 44A dywedodd Pharo wrth Joseff, “Myfi yw Pharo, ond heb dy ganiatâd di nid yw neb i godi na llaw na throed trwy holl wlad yr Aifft.” 45Enwodd Pharo ef Saffnath-panea, a rhoddodd yn wraig iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On. Yna aeth Joseff allan yn bennaeth dros wlad yr Aifft.
46Deng mlwydd ar hugain oedd oed Joseff pan safodd gerbron Pharo brenin yr Aifft. Aeth allan o ŵydd Pharo, a thramwyodd trwy holl wlad yr Aifft. 47Yn ystod y saith mlynedd o lawnder cnydiodd y ddaear yn doreithiog, 48a chasglodd yntau yr holl fwyd a gaed yng ngwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a chrynhoi ymborth yn y dinasoedd. Casglodd i bob dinas fwyd y meysydd o'i hamgylch. 49Felly pentyrrodd Joseff ŷd fel tywod y môr, nes peidio â chadw cyfrif, am na ellid ei fesur.
50Cyn dyfod blwyddyn y newyn, ganwyd i Joseff ddau fab o Asnath, merch Potiffera offeiriad On. 51Enwodd Joseff ei gyntafanedig Manasse#41:51 H.y., Peri anghofio.—“Am fod Duw wedi peri imi anghofio fy holl gyni a holl dylwyth fy nhad.” 52Enwodd yr ail Effraim#41:52 H.y., Gwneud yn ffrwythlon.—“Am fod Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yng ngwlad fy ngorthrymder.”
53Darfu'r saith mlynedd o lawnder yng ngwlad yr Aifft; 54a dechreuodd y saith mlynedd o newyn, fel yr oedd Joseff wedi dweud. Bu newyn yn yr holl wledydd, ond yr oedd bwyd yn holl wlad yr Aifft. 55A phan ddaeth newyn ar holl wlad yr Aifft, galwodd y bobl ar Pharo am fwyd. Dywedodd Pharo wrth yr holl Eifftiaid, “Ewch at Joseff, a gwnewch yr hyn a ddywed ef wrthych.” 56Ac fel yr oedd y newyn yn ymledu dros wyneb yr holl dir, agorodd Joseff yr holl ystordai#41:56 Felly Fersiynau. Hebraeg heb ystordai. a gwerthodd ŷd i'r Eifftiaid, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm yng ngwlad yr Aifft. 57Daeth pobl o'r holl wledydd hefyd i'r Aifft at Joseff i brynu, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm drwy'r byd i gyd.

Dewis Presennol:

Genesis 41: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda