Preswyliodd Jacob yng ngwlad Canaan, y wlad yr ymdeithiodd ei dad ynddi. Dyma hanes tylwyth Jacob. Yr oedd Joseff yn ddwy ar bymtheg oed, ac yn bugeilio'r praidd gyda'i frodyr, gan helpu meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad; a chariodd Joseff straeon drwg amdanynt i'w tad. Yr oedd Israel yn caru Joseff yn fwy na'i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo. Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na'r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho. Cafodd Joseff freuddwyd, a phan ddywedodd wrth ei frodyr amdani, aethant i'w gasáu yn fwy fyth. Dywedodd wrthynt, “Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais: yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i.” Yna gofynnodd ei frodyr iddo, “Ai ti sydd i deyrnasu arnom? A fyddi di'n arglwydd arnom ni?” Ac aethant i'w gasáu ef yn fwy eto o achos ei freuddwydion a'i eiriau. Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, “Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi.” Wedi iddo ei hadrodd wrth ei dad a'i frodyr, ceryddodd ei dad ef, a dweud, “Beth yw'r freuddwyd hon a gefaist? A ddown ni, myfi a'th fam a'th frodyr, i ymgrymu i'r llawr i ti?” A chenfigennodd ei frodyr wrtho, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof.
Darllen Genesis 37
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 37:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos