Pan welodd yr ARGLWYDD fod Lea'n cael ei chasáu, agorodd ei chroth; ond yr oedd Rachel yn ddi-blant. Beichiogodd Lea ac esgor ar fab, a galwodd ef Reuben; oherwydd dywedodd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi gweld fy ngwaradwydd, ac yn awr bydd fy ngŵr yn fy ngharu.” Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi clywed fy mod yn cael fy nghasáu, a rhoddodd hwn i mi hefyd.” A galwodd ef Simeon. Beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, “Yn awr, o'r diwedd fe unir fy ngŵr â mi, oherwydd rhoddais iddo dri mab.” Am hynny galwodd ef Lefi. A beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y tro hwn moliannaf yr ARGLWYDD.” Am hynny galwodd ef Jwda. Yna peidiodd â geni plant.
Darllen Genesis 29
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 29:31-35
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos