Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 25:19-34

Genesis 25:19-34 BCND

Dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: tad Isaac oedd Abraham, ac yr oedd Isaac yn ddeugain mlwydd oed pan gymerodd yn wraig Rebeca ferch Bethuel yr Aramead o Padan Aram, chwaer Laban yr Aramead. A gweddïodd Isaac ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod heb eni plentyn. Atebodd yr ARGLWYDD ei weddi, a beichiogodd ei wraig Rebeca. Aflonyddodd y plant ar ei gilydd yn ei chroth, a dywedodd hithau, “Pam y mae fel hyn arnaf?” Aeth i ymofyn â'r ARGLWYDD, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi, “Dwy genedl sydd yn dy groth, a gwahenir dau lwyth o'th fru, bydd y naill yn gryfach na'r llall, a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.” Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth. Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau. Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy. Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn ŵr y maes; ond yr oedd Jacob yn ŵr tawel, yn byw mewn pebyll. Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob. Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio. A dywedodd Esau wrth Jacob, “Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio.” Dyna pam y galwyd ef Edom. Dywedodd Jacob, “Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint.” A dywedodd Esau, “Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?” Dywedodd Jacob, “Dos ar dy lw i mi yn awr.” Felly aeth ar ei lw, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i Jacob. Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.