Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 24:12-27

Genesis 24:12-27 BCND

A dywedodd, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, rho lwyddiant i mi heddiw, a gwna garedigrwydd â'm meistr Abraham. Dyma fi'n sefyll wrth y ffynnon ddŵr, a merched y ddinas yn dod i godi dŵr. Y ferch y dywedaf wrthi, ‘Gostwng dy stên, er mwyn i mi gael yfed’, a hithau'n ateb, ‘Yf, ac mi rof ddiod i'th gamelod hefyd’, bydded mai honno fydd yr un a ddarperaist i'th was Isaac. Wrth hyn y caf wybod iti wneud caredigrwydd â'm meistr.” Cyn iddo orffen siarad, dyma Rebeca, a anwyd i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham, yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd. Yr oedd y ferch yn hardd odiaeth, yn wyryf, heb orwedd gyda gŵr. Aeth i lawr at y ffynnon, llanwodd ei stên, a daeth i fyny. Rhedodd y gwas i'w chyfarfod, a dweud, “Gad imi yfed ychydig ddŵr o'th stên.” Dywedodd hithau, “Yf, f'arglwydd,” a brysio i ostwng ei stên ar ei llaw, a rhoi diod iddo. Pan orffennodd roi diod iddo, dywedodd hi, “Codaf ddŵr i'th gamelod hefyd, nes iddynt gael digon.” Brysiodd i dywallt ei stên i'r cafn, a rhedeg eilwaith i'r ffynnon, a chodi dŵr i'w holl gamelod. Syllodd y gŵr arni, heb ddweud dim, i wybod a oedd yr ARGLWYDD wedi llwyddo'i daith ai peidio. Pan orffennodd y camelod yfed, cymerodd y gŵr fodrwy aur yn pwyso hanner sicl, a dwy freichled yn pwyso deg sicl o aur i'w garddyrnau, ac meddai, “Dywed wrthyf, merch pwy wyt ti? A oes lle i ni aros noson yn nhŷ dy dad?” Dywedodd hithau wrtho, “Merch Bethuel fab Milca a Nachor.” Ac ychwanegodd, “Y mae gennym ddigon o wellt a phorthiant, a lle i letya.” Ymgrymodd y gŵr i addoli'r ARGLWYDD, a dweud, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am nad ataliodd ei garedigrwydd a'i ffyddlondeb oddi wrth fy meistr. Arweiniodd yr ARGLWYDD fi ar fy nhaith i dŷ brodyr fy meistr.”