Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw. Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, “Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd, ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw.” Dywedodd yr ARGLWYDD Dduw hefyd, “Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys.” Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth â hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw. Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun. Yna parodd yr ARGLWYDD Dduw i drymgwsg syrthio ar y dyn, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o'i asennau a chau ei lle â chnawd; ac o'r asen a gymerodd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw wraig, a daeth â hi at y dyn. A dywedodd y dyn, “Dyma hi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd. Gelwir hi yn wraig, am mai o ŵr y cymerwyd hi.” Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd. Yr oedd y dyn a'i wraig ill dau yn noeth, ac nid oedd arnynt gywilydd.
Darllen Genesis 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 2:15-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos