Pan aeth y gwŷr ymlaen oddi yno, ac edrych i lawr tua Sodom, aeth Abraham gyda hwy i'w hebrwng. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho'i hun, “A gelaf fi rhag Abraham yr hyn yr wyf am ei wneud, oherwydd yn ddiau daw Abraham yn genedl fawr a chref, a bendithir holl genhedloedd y ddaear ynddo? Na, fe'i hysbysaf, er mwyn iddo orchymyn i'w blant a'i dylwyth ar ei ôl gadw ffordd yr ARGLWYDD a gwneud cyfiawnder a barn, fel y bydd i'r ARGLWYDD gyflawni ei air i Abraham.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Am fod y gŵyn yn erbyn Sodom a Gomorra yn fawr, a'u pechod yn ddrwg iawn, disgynnaf i weld a wnaethant yn hollol yn ôl y gŵyn a ddaeth ataf; os na wnaethant, caf wybod.” Pan drodd y gwŷr oddi yno a mynd i gyfeiriad Sodom, yr oedd Abraham yn dal i sefyll gerbron yr ARGLWYDD. A nesaodd Abraham a dweud, “A wyt yn wir am ddifa'r cyfiawn gyda'r drygionus? Os ceir hanner cant o rai cyfiawn yn y ddinas, a wyt yn wir am ei dinistrio a pheidio ag arbed y lle er mwyn yr hanner cant cyfiawn sydd yno?
Darllen Genesis 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 18:16-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos