Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 17:15-27

Genesis 17:15-27 BCND

Dywedodd Duw wrth Abraham, “Ynglŷn â'th wraig Sarai: nid Sarai y gelwir hi, ond Sara fydd ei henw. Bendithiaf hi, a rhoddaf i ti fab ohoni; ie, bendithiaf hi, a bydd yn fam i genhedloedd, a daw brenhinoedd pobloedd ohoni.” Ymgrymodd Abraham, ond chwarddodd ynddo'i hun, a dweud, “A enir plentyn i ŵr canmlwydd oed? A fydd Sara'n geni plentyn yn naw deg oed?” A dywedodd Abraham wrth Dduw, “O na byddai Ismael fyw ger dy fron!” Ond dywedodd Duw, “Na, bydd dy wraig Sara yn geni iti fab, a gelwi ef Isaac. Sefydlaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i'w ddisgynyddion ar ei ôl. Ynglŷn ag Ismael: yr wyf wedi gwrando arnat, a bendithiaf yntau a'i wneud yn ffrwythlon a'i amlhau'n ddirfawr; bydd yn dad i ddeuddeg tywysog, a gwnaf ef yn genedl fawr. Ond byddaf yn sefydlu fy nghyfamod ag Isaac, y mab y bydd Sara yn ei eni iti erbyn yr amser yma'r flwyddyn nesaf.” Wedi iddo orffen llefaru, aeth Duw oddi wrth Abraham. Yna cymerodd Abraham ei fab Ismael, a phawb a anwyd yn ei dŷ neu a brynwyd â'i arian, pob gwryw o deulu Abraham, ac enwaedodd gnawd eu blaengrwyn y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Duw wedi dweud wrtho. Yr oedd Abraham yn naw deg a naw mlwydd oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen, a'i fab Ismael yn dair ar ddeg oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen yntau. Y diwrnod hwnnw enwaedwyd Abraham a'i fab Ismael; ac enwaedwyd gydag ef holl ddynion ei dŷ, y rhai a anwyd i'r teulu a phob dieithryn a brynwyd ag arian.