Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 16:4-16

Genesis 16:4-16 BCND

Cafodd ef gyfathrach â Hagar, a beichiogodd hithau; a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, aeth ei meistres yn ddibris yn ei golwg. Yna dywedodd Sarai wrth Abram, “Bydded fy ngham arnat ti! Rhoddais fy morwyn yn dy fynwes, a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, euthum yn ddibris yn ei golwg. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom.” Dywedodd Abram wrth Sarai, “Edrych, y mae dy forwyn dan dy ofal; gwna iddi fel y gweli'n dda.” Yna bu Sarai yn gas wrthi, nes iddi ffoi oddi wrthi. Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd i Hagar wrth ffynnon ddŵr yn y diffeithwch, wrth y ffynnon sydd ar y ffordd i Sur. A dywedodd wrthi, “Hagar forwyn Sarai, o ble y daethost, ac i ble'r wyt yn mynd?” Dywedodd hithau, “Ffoi yr wyf oddi wrth fy meistres Sarai.” A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi, “Dychwel at dy feistres, ac ymostwng iddi.” Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi, “Amlhaf dy ddisgynyddion yn ddirfawr, a byddant yn rhy luosog i'w rhifo.” A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi: “Yr wyt yn feichiog, ac fe esgori ar fab; byddi'n ei alw yn Ismael, oherwydd clywodd yr ARGLWYDD am dy gystudd. Asyn gwyllt o ddyn a fydd, a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn ef, un yn byw'n groes i'w holl gymrodyr.” A galwodd hi enw'r ARGLWYDD oedd yn llefaru wrthi yn “Tydi yw El-roi”, oherwydd dywedodd, “A wyf yn wir wedi gweld Duw, a byw ar ôl ei weld?”. Am hynny galwyd y pydew Beer-lahai-roi; y mae rhwng Cades a Bered. Ac esgorodd Hagar ar fab i Abram; ac enwodd Abram y mab a anwyd i Hagar yn Ismael. Yr oedd Abram yn wyth deg a chwech oed pan anwyd iddo Ismael o Hagar.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Genesis 16:4-16