Wedi'r pethau hyn, daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, a dweud, “Nac ofna, Abram, myfi yw dy darian; bydd dy wobr yn fawr iawn.” Ond dywedodd Abram, “O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhŷ yw Eleasar o Ddamascus?” Dywedodd Abram hefyd, “Edrych, nid wyt wedi rhoi epil i mi; a chaethwas o'm tŷ yw f'etifedd.” Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, “Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd.” Aeth ag ef allan a dywedodd, “Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sêr os gelli.” Yna dywedodd wrtho, “Felly y bydd dy ddisgynyddion.” Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo. Yna dywedodd wrtho, “Myfi yw'r ARGLWYDD, a ddaeth â thi o Ur y Caldeaid, i roi'r wlad hon i ti i'w hetifeddu.”
Darllen Genesis 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 15:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos