Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 15:1-17

Genesis 15:1-17 BCND

Wedi'r pethau hyn, daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, a dweud, “Nac ofna, Abram, myfi yw dy darian; bydd dy wobr yn fawr iawn.” Ond dywedodd Abram, “O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhŷ yw Eleasar o Ddamascus?” Dywedodd Abram hefyd, “Edrych, nid wyt wedi rhoi epil i mi; a chaethwas o'm tŷ yw f'etifedd.” Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, “Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd.” Aeth ag ef allan a dywedodd, “Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sêr os gelli.” Yna dywedodd wrtho, “Felly y bydd dy ddisgynyddion.” Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo. Yna dywedodd wrtho, “Myfi yw'r ARGLWYDD, a ddaeth â thi o Ur y Caldeaid, i roi'r wlad hon i ti i'w hetifeddu.” Ond dywedodd ef, “O Arglwydd DDUW, sut y caf wybod yr etifeddaf hi?” Dywedodd yntau wrtho, “Dwg imi heffer deirblwydd, gafr deirblwydd, hwrdd teirblwydd, turtur a chyw colomen.” Daeth â'r rhain i gyd ato, a'u hollti'n ddau a gosod y naill ddarn gyferbyn â'r llall; ond ni holltodd yr adar. A phan fyddai adar yn disgyn ar y cyrff byddai Abram yn eu hel i ffwrdd. Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd; ond dof â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu, ac wedi hynny dônt allan gyda meddiannau lawer. Ond byddi di dy hun farw mewn tangnefedd, ac fe'th gleddir mewn oedran teg. A dychwelant hwy yma yn y bedwaredd genhedlaeth; oherwydd ni chwblheir hyd hynny ddrygioni'r Amoriaid.” Yna wedi i'r haul fachlud, ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud rhwng y darnau hynny.