Yr oedd gan Lot, a oedd yn teithio gydag Abram, hefyd ddefaid ac ychen a phebyll; ac ni allai'r tir eu cynnal ill dau gyda'i gilydd. Am fod eu meddiannau mor helaeth, ni allent drigo ynghyd; a bu cynnen rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a rhai Lot. Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad yr amser hwnnw. Yna dywedodd Abram wrth Lot, “Peidied â bod cynnen rhyngom, na rhwng fy mugeiliaid i a'th rai di, oherwydd perthnasau ydym. Onid yw'r holl wlad o'th flaen? Ymwahana oddi wrthyf. Os troi di i'r chwith, fe drof finnau i'r dde; ac os i'r dde, trof finnau i'r chwith.”
Darllen Genesis 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 13:5-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos