Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Dos o'th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a'th deulu, i'r wlad a ddangosaf i ti. Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith. Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.” Aeth Abram fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ac aeth Lot gydag ef. Saith deg a phump oedd oed Abram pan aeth allan o Haran. A chymerodd Abram ei wraig Sarai, a Lot mab ei frawd, a'r holl feddiannau a gasglwyd ganddynt, a'r tylwyth a gawsant yn Haran, a chychwyn i wlad Canaan. Wedi iddynt ddod i wlad Canaan, tramwyodd Abram trwy'r tir hyd safle Sichem, at dderwen More. Y Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw, ond ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram a dweud, “I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon.” Adeiladodd yntau allor yno i'r ARGLWYDD, a oedd wedi ymddangos iddo. Yna symudodd oddi yno i'r mynydd-dir tua'r dwyrain o Fethel a gosod ei babell, gyda Bethel o'i ôl ac Ai o'i flaen; adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD, a galw ar enw'r ARGLWYDD. A pharhaodd Abram i symud yn raddol tua'r Negef.
Darllen Genesis 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 12:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos