Dyma genedlaethau Tera. Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran; a Haran oedd tad Lot. Bu Haran farw cyn ei dad Tera yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid. Yna cymerodd Abram a Nachor wragedd iddynt eu hunain; enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca. Yr oedd Sarai yn ddi-blant, heb eni plentyn. Cymerodd Tera ei fab Abram, a'i ŵyr Lot fab Haran, a Sarai ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig ei fab Abram; ac aethant allan gyda'i gilydd o Ur y Caldeaid i fynd i wlad Canaan, a daethant i Haran a thrigo yno. Dau gant a phump o flynyddoedd oedd oes Tera; a bu farw Tera yn Haran.
Darllen Genesis 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 11:27-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos