I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant. Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram. Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas. Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber. I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd. Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera, Hadoram, Usal, Dicla, Obal, Abimael, Seba, Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan. Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain. Dyna feibion Sem, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.
Dyma lwythau meibion Noa, yn ôl eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw.