Gynt, yn wir, a chwithau heb adnabod Duw, caethweision oeddech i fodau nad ydynt o ran eu natur yn dduwiau. Ond yn awr, a chwithau wedi adnabod Duw, neu yn hytrach, wedi eich adnabod gan Dduw, sut y gallwch droi yn ôl at yr ysbrydion elfennig llesg a thlawd, a mynnu mynd yn gaethweision iddynt hwy unwaith eto? Cadw dyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd, yr ydych. Y mae arnaf ofn mai yn ofer yr wyf wedi llafurio ar eich rhan.
Rwy'n ymbil arnoch, gyfeillion, byddwch fel yr wyf fi, oherwydd fe fûm i, yn wir, fel yr oeddech chwi. Ni wnaethoch ddim cam â mi. Fel y gwyddoch, ar achlysur gwendid corfforol y pregethais yr Efengyl i chwi y tro cyntaf; ac er i gyflwr fy nghorff fod yn demtasiwn i chwi, ni fuoch na dibris na dirmygus ohonof, ond fy nerbyn a wnaethoch fel angel Duw, fel Crist Iesu ei hun. Ble'r aeth eich llawenydd? Oherwydd gallaf dystio amdanoch, y buasech wedi tynnu'ch llygaid allan a'u rhoi i mi, petasai hynny'n bosibl. A wyf fi, felly, wedi mynd yn elyn ichwi, am imi ddweud y gwir wrthych? Y mae yna bobl sy'n rhoi sylw mawr ichwi, ond nid er eich lles; ceisio eich cau chwi allan y maent, er mwyn i chwi roi sylw iddynt hwy. Peth da bob amser yw ichwi gael sylw, pan fydd hynny er lles, ac nid yn unig pan fyddaf fi'n bresennol gyda chwi. Fy mhlant bach, yr wyf unwaith eto mewn gwewyr esgor arnoch, hyd nes y ceir ffurf Crist ynoch. Byddai'n dda gennyf fod gyda chwi yn awr, a gostegu fy llais, oherwydd yr wyf mewn penbleth yn eich cylch.
Dywedwch i mi, chwi sy'n mynnu bod dan gyfraith, oni wrandewch ar y Gyfraith? Y mae'n ysgrifenedig i Abraham gael dau fab, un o'i gaethferch ac un o'i wraig rydd. Ganwyd mab y gaethferch yn ôl greddfau'r cnawd, ond ganwyd mab y wraig rydd trwy addewid Duw. Alegori yw hyn oll. Y mae'r gwragedd yn cynrychioli dau gyfamod. Y mae un o Fynydd Sinai, yn geni plant i gaethiwed. Hagar yw hon; y mae Hagar yn cynrychioli Mynydd Sinai yn Arabia, ac y mae'n cyfateb i'r Jerwsalem sydd yn awr, oherwydd y mae hi, ynghyd â'i phlant, mewn caethiwed. Ond y mae'r Jerwsalem sydd fry yn rhydd, a hi yw ein mam ni. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig:
“Llawenha, y wraig ddiffrwyth nad wyt yn dwyn plant;
bloeddia ganu, y wraig nad wyt fyth mewn gwewyr esgor;
oherwydd y mae plant y wraig ddiymgeledd yn lluosocach na phlant y wraig sydd â gŵr ganddi.”
Ond yr ydych chwi, gyfeillion, fel Isaac, yn blant addewid Duw. Ond fel yr oedd plentyn y cnawd gynt yn erlid plentyn yr Ysbryd, felly y mae yn awr hefyd. Ond beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Gyrr allan y gaethferch a'i mab, oherwydd ni chaiff mab y gaethferch fyth gydetifeddu â mab y wraig rydd.” Gan hynny, gyfeillion, nid plant i'r gaethferch ydym ni, ond plant i'r wraig rydd.