Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!” Y mae'n amlwg na chaiff neb ei gyfiawnhau gerbron Duw ar dir cyfraith, oherwydd, “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.” Eithr nid “trwy ffydd” yw egwyddor y Gyfraith; dweud y mae hi yn hytrach, “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt hwy.” Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!” Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd.
Darllen Galatiaid 3
Gwranda ar Galatiaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Galatiaid 3:10-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos