Yr wyf yn synnu eich bod yn cefnu mor fuan ar yr hwn a'ch galwodd chwi trwy ras Crist, ac yn troi at efengyl wahanol. Nid ei bod yn efengyl arall mewn gwirionedd, ond bod rhywrai, yn eu hawydd i wyrdroi Efengyl Crist, yn aflonyddu arnoch. Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno! Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, felly yr wyf yn dweud eto yn awr: os oes rhywun yn pregethu efengyl i chwi sy'n groes i'r Efengyl a dderbyniasoch, melltith arno! Pwy yr wyf am ei gael o'm plaid yn awr, ai dynion, ai Duw? Ai ceisio plesio dynion yr wyf? Pe bawn â'm bryd o hyd ar blesio dynion, nid gwas i Grist fyddwn. Yr wyf am roi ar ddeall i chwi, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad rhywbeth dynol mohoni. Oherwydd nid ei derbyn fel traddodiad dynol a wneuthum, na chael fy nysgu ynddi chwaith; trwy ddatguddiad Iesu Grist y cefais hi.
Darllen Galatiaid 1
Gwranda ar Galatiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Galatiaid 1:6-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos