Esra 10
10
Cynllun i Ddiddymu Priodasau Cymysg
1Tra oedd Esra'n gweddïo yn ei ddagrau, yn cyffesu ar ei hyd o flaen tŷ Dduw, ymgasglodd tyrfa fawr iawn o Israeliaid ato, yn wŷr, gwragedd a phlant, ac yr oedd y bobl yn wylo'n hidl. 2Yna dywedodd Sechaneia fab Jehiel, o deulu Elam, wrth Esra, “Yr ydym wedi troseddu yn erbyn ein Duw trwy briodi merched estron o blith pobloedd y wlad; eto y mae gobaith i Israel er gwaethaf hyn. 3Yn awr gadewch i ni wneud cyfamod â'n Duw i droi ymaith yr holl ferched hyn a'u plant, yn ôl cyngor f'arglwydd a'r rhai sy'n parchu gorchymyn ein Duw; a byddwn felly'n cadw'r gyfraith. 4Cod, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi; gweithreda'n wrol.” 5Yna cododd Esra a pheri i arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid ac i holl Israel addo hyn, a gwnaethant hwythau addewid. 6Aeth Esra o dŷ'r Arglwydd i ystafell Johanan fab Eliasib, ac aros#10:6 Felly Groeg. Hebraeg, aeth. yno heb fwyta bara nac yfed dŵr am ei fod yn dal i alaru am gamwedd y rhai a ddaeth o'r gaethglud. 7Yna anfonwyd neges trwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i bawb a fu yn y gaethglud ymgynnull yn Jerwsalem, 8a byddai pob un na ddôi o fewn tridiau ar wŷs y penaethiaid a'r henuriaid yn colli ei gyfoeth ac yn cael ei dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud. 9O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd holl wŷr Jwda a Benjamin i Jerwsalem, ac eisteddodd pawb yn y sgwâr o flaen tŷ Dduw yn crynu o achos yr hyn oedd yn digwydd ac o achos y glawogydd. 10Cododd Esra yr offeiriad a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi gwneud camwedd ac wedi ychwanegu at euogrwydd Israel trwy briodi merched estron. 11Yn awr cyffeswch gerbron ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid; gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth bobloedd y wlad a'r merched estron.” 12Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn; rhaid i ni wneud fel yr wyt ti'n gorchymyn. 13Ond y mae yma lawer o bobl; y mae'n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored. Nid gwaith diwrnod neu ddau ydyw, oherwydd y mae llawer ohonom wedi pechu yn hyn o beth. 14Caiff ein penaethiaid gynrychioli'r gynulleidfa gyfan, a bydded i'r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amseroedd penodedig, pob un gyda henuriaid a barnwyr ei ddinas ei hun, nes i ddicter mawr ein Duw am hyn droi oddi wrthym.” 15Yr unig wrthwynebwyr oedd Jonathan fab Asahel ac Eseia fab Ticfa, a chawsant gefnogaeth Mesulam a Sabethai y Lefiad. 16Wedi i'r rhai oedd wedi bod yn y gaethglud gytuno, fe neilltuodd Esra yr offeiriad ddynion oedd yn bennau-teuluoedd i gynrychioli eu teuluoedd wrth eu henwau. Eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis i archwilio'r mater, 17ac erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yr oeddent wedi gorffen eu hymchwiliad i'r holl briodasau gyda merched estron.
Y Rhai oedd wedi Priodi Merched Estron
18Ymysg meibion yr offeiriaid oedd wedi priodi merched estron yr oedd y canlynol: Maseia, Elieser, Jarib a Gedaleia o deulu Jesua fab Josadac a'i frodyr. 19Gwnaethant addewid i ysgaru eu gwragedd ac offrymasant hwrdd o'r praidd am eu trosedd. 20O feibion Immer: Hanani a Sebadeia. 21O feibion Harim: Maseia, Eleia, Semaia, Jehiel ac Usseia. 22O feibion Pasur: Elioenai, Maseia, Ismael, Nethaneel, Josabad ac Elasa. 23O'r Lefiaid: Josabad, Simei a Chelaia (hynny yw, Celita), Pethaheia, Jwda ac Elieser. 24O'r cantorion: Eliasib. O'r porthorion: Salum, Telem ac Uri. 25O Israel, o feibion Paros: Rameia, Jeseia, Malcheia, Miamin, Eleasar, Malcheia a Benaia. 26O feibion Elam: Mataneia, Sechareia, Jehel, Abdi, Jeremoth ac Eleia. 27O feibion Sattu: Elioenai, Eliasib, Mataneia, Jeremoth, Sabad ac Asisa. 28O feibion Bebai: Jehohanan, Hananeia, Sabai ac Athlai. 29O feibion Bani: Mesulam, Maluch, Adaia, Jasub, Seal a Ramoth. 30O feibion Pahath-moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, Binnui a Manasse. 31O feibion Harim: Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon, 32Benjamin, Maluch a Semareia. 33O feibion Hasum: Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai, Manasse a Simei. 34O feibion Bani: Maadai, Amram, Uel, 35Benaia, Bedeia, Celu, 36Faneia, Meremoth, Eliasib, 37Mataneia, Matenai, Jasau, 38Bani, Binnui, Simei, 39Selemeia, Nathan, Adaia, 40Machnadebai, Sasai, Sarai, 41Asareel, Selemeia, Semareia, 42Salum, Amareia a Joseff. 43O feibion Nebo: Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadue, Joel a Benaia. 44Yr oedd y rhain i gyd wedi priodi merched estron, ond troesant hwy allan, yn wragedd a phlant.#10:44 Cymh. Groeg. Hebraeg, merched estron, yr oedd ohonynt wragedd a roesant feibion.
Dewis Presennol:
Esra 10: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004