Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 5

5
Rhannu Gwallt y Proffwyd
1“Tithau, fab dyn, cymer iti gleddyf llym a'i ddefnyddio fel ellyn barbwr i eillio dy ben a'th farf, ac yna cymer gloriannau a rhannu'r gwallt. 2Llosga draean ohono mewn tân yng nghanol y ddinas pan ddaw dyddiau'r gwarchae i ben; cymer draean a'i daro â'r cleddyf o amgylch y ddinas; gwasgara draean i'r gwynt, ac fe'i hymlidiaf â chleddyf. 3Cymer hefyd ychydig bach ohono a'i glymu yng ngodre dy wisg. 4Cymer ychydig ohono eto a'i daflu i ganol tân a'i losgi; bydd tân yn lledu ohono i holl dŷ Israel.
5“Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch, 6ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau.
7“Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am i chwi fod yn fwy terfysglyd na'r cenhedloedd o'ch amgylch, a pheidio â dilyn fy neddfau nac ufuddhau i'm barnau, na hyd yn oed farnau'r cenhedloedd o'ch amgylch, 8felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edrych, yr wyf fi fy hun yn dy erbyn. Gwnaf farn â thi yng ngŵydd y cenhedloedd; 9oherwydd dy holl ffieidd-dra gwnaf i ti yr hyn nas gwneuthum erioed ac nis gwnaf eto. 10Am hynny, yn dy ganol di bydd rhieni yn bwyta eu plant a phlant yn bwyta eu rhieni; gwnaf farn â thi, a gwasgaraf i'r pedwar gwynt y rhai a weddillir ohonot. 11Felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, am i ti halogi fy nghysegr â'th holl bethau atgas a ffiaidd, byddaf finnau yn dy ddarostwng, ac ni fyddaf yn tosturio, nac yn trugarhau. 12Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu hymlid â'r cleddyf. 13Yna fe dderfydd fy nig, ac fe dawela fy llid yn eu herbyn, a byddaf fodlon; pan fydd fy llid yn eu herbyn wedi darfod, byddant yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD sydd wedi llefaru yn fy eiddigedd. 14Rhoddaf di'n anrhaith ac yn warth ymysg y cenhedloedd o'th amgylch, yng ngŵydd pawb sy'n mynd heibio. 15Byddi'n warth ac yn watwar, yn wers ac yn fraw i'r cenhedloedd o'th amgylch, pan wnaf farn â thi mewn dig ac mewn llid ac â cherydd miniog. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd. 16Pan fyddaf yn saethu atat â'm saethau marwol a dinistriol o newyn, byddaf yn saethu i'th ddinistrio; dygaf ragor o newyn arnat a thorraf ymaith dy gynhaliaeth o fara. 17Anfonaf arnat newyn a bwystfilod gwylltion, ac fe'th wnânt yn ddi-blant; bydd haint a thywallt gwaed yn ysgubo drosot, a gwnaf i gleddyf ddod arnat. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.”

Dewis Presennol:

Eseciel 5: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda