Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 26

26
Proffwydo yn erbyn Tyrus
1Ar ddydd cyntaf y mis cyntaf#26:1 Cymh. Groeg. Hebraeg heb cyntaf. yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, oherwydd i Tyrus ddweud am Jerwsalem, ‘Aha! Fe ddrylliwyd porth y cenhedloedd, ac fe'i gwnaed yn agored i mi; fe lwyddaf fi am ei bod hi'n anrheithiedig’, 3am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf yn dy erbyn, O Tyrus, ac fe ddygaf lawer o genhedloedd yn dy erbyn, fel môr yn dygyfor. 4Fe fyddant yn dinistrio muriau Tyrus ac yn bwrw i lawr ei thyrau; crafaf y pridd ohoni a'i gwneud yn graig noeth. 5Bydd yn lle i daenu rhwydau allan yng nghanol y môr, oherwydd myfi a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW. ‘Bydd yn anrhaith i'r cenhedloedd, 6ac fe ddinistrir ei maestrefi trwy'r cleddyf; yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’
7“Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Fe ddof â Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y brenhinoedd, yn erbyn Tyrus o'r gogledd gyda meirch a cherbydau, gyda marchogion a mintai fawr yn fyddin. 8Bydd yn dinistrio dy faestrefi trwy'r cleddyf, yn gosod gwarchae arnat, yn codi esgynfa tuag atat, ac yn gosod tarianau yn dy erbyn. 9Fe dry ei beiriannau hyrddio yn erbyn dy furiau, a dymchwel dy dyrau â'i arfau. 10Bydd ei feirch mor niferus nes dy orchuddio â llwch; bydd dy furiau'n crynu gan sŵn y meirch, y wageni a'r cerbydau, wrth iddo ddod i mewn trwy'r pyrth fel un#26:10 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, rhai. yn dod i ddinas wedi ei bylchu. 11Bydd carnau ei feirch yn sathru dy strydoedd i gyd; fe leddir dy bobl â'r cleddyf, ac fe syrth dy golofnau cedyrn i'r llawr. 12Anrheithiant dy gyfoeth a chymryd dy nwyddau'n ysbail; dymchwelant dy furiau a chwalu dy dai dymunol, a lluchio'r meini, y coed a'r pridd i ganol y môr. 13Rhof ddiwedd ar sŵn dy ganiadau, ac ni chlywir sain dy delynau mwyach. 14Gwnaf di'n graig noeth, ac fe ddoi'n lle i daenu rhwydau; nid ailadeiledir di mwyach, oherwydd myfi'r ARGLWYDD a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.
15“Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth Tyrus: ‘Oni fydd yr ynysoedd yn crynu gan sŵn dy gwymp, pan fydd yr archolledig yn cwynfan a phan fydd rhai yn lladd o'th fewn? 16Yna bydd holl dywysogion y môr yn disgyn oddi ar eu gorseddau, yn tynnu eu mentyll ac yn diosg eu gwisgoedd o frodwaith. Byddant wedi eu gwisgo â dychryn, yn eistedd ar lawr ac yn crynu bob eiliad, ac wedi eu brawychu o'th achos. 17Yna, fe godant alarnad a dweud amdanat,
“O, fel y dinistriwyd di, y ddinas enwog
a fu'n gartref i forwyr!
Buost yn rymus ar y moroedd,
ti a'th drigolion,
a gosodaist dy arswyd
ar dy holl drigolion.
18Yn awr y mae'r ynysoedd yn crynu
ar ddydd dy gwymp;
y mae'r ynysoedd yn y môr yn arswydo
wrth i ti syrthio.” ’
19Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Pan wnaf di'n ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd sydd heb drigolion, a phan ddygaf y dyfnfor drosot, a'r dyfroedd mawrion yn dy orchuddio, 20yna fe'th fwriaf i lawr gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll at bobl o'r oesoedd gynt. Gwnaf iti fyw yn y tir isod, fel mewn hen adfeilion, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; ac ni ddychweli i gymryd dy le#26:20 Felly Groeg. Hebraeg, a rhof anrhydedd. yn nhir y rhai byw. 21Rhof iti ddiwedd ofnadwy, ac ni fyddi mwyach; fe'th geisir, ond ni cheir mohonot byth mwy,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Dewis Presennol:

Eseciel 26: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda