Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 19

19
Galarnad am Dywysogion
1“Gwna alarnad am dywysogion Israel, 2a dywed:
‘Y fath lewes oedd dy fam
ymhlith y llewod!
Gorweddodd ymysg y llewod ifainc
a magu ei chenawon.
3Meithrinodd un o'i chenawon,
a thyfodd yn llew ifanc;
dysgodd larpio ysglyfaeth
a bwyta pobl.
4Clywodd y cenhedloedd amdano,
ac fe'i daliwyd yn eu pwll;
aethant ag ef â bachau
i wlad yr Aifft.
5Pan welodd hi ei siomi#19:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, ei disgwyl.
a dinistrio ei gobaith,
cymerodd un arall o'i chenawon
a gwneud llew ifanc ohono.
6Yr oedd yn prowla ymhlith y llewod,
a thyfodd yn llew ifanc;
dysgodd larpio ysglyfaeth
a bwyta pobl.
7Tynnodd i lawr eu ceyrydd#19:7 Tebygol. Cymh. Fersiynau. Hebraeg, Adnabu eu gweddwon.,
a dinistrio eu dinasoedd;
daeth ofn ar y wlad a phopeth ynddi
oherwydd sŵn ei ruo.
8Yna daeth y cenhedloedd yn ei erbyn
o'r taleithiau o amgylch;
taenasant eu rhwyd drosto,
ac fe'i daliwyd yn eu pwll.
9Tynasant ef i gawell â bachau,
a mynd ag ef at frenin Babilon;
rhoddwyd ef mewn carchar,
fel na chlywyd ei sŵn mwyach
ar fynyddoedd Israel.
10“ ‘Yr oedd dy fam fel gwinwydden mewn gwinllan#19:10 Felly llawysgrifau. TM, yn dy waed.,
wedi ei phlannu yn ymyl dyfroedd;
yr oedd yn ffrwythlon a brigog
am fod digon o ddŵr.
11Yr oedd ei changhennau yn gryfion,
yn addas i deyrnwialen llywodraethwyr.
Tyfodd yn uchel iawn,
uwchlaw'r prysgwydd;
yr oedd yn amlwg oherwydd ei huchder
a nifer ei changau.
12Ond fe'i diwreiddiwyd mewn dicter,
fe'i bwriwyd hi i'r llawr;
deifiodd gwynt y dwyrain hi,
dinoethwyd hi o'i ffrwythau;
gwywodd ei changau cryfion,
ac yswyd hwy gan dân.
13Yn awr, y mae wedi ei thrawsblannu mewn diffeithwch,
mewn tir cras a sychedig.
14Lledodd tân o un o'i changhennau
ac ysu ei blagur#19:14 Felly Groeg. Hebraeg yn ychwanegu ei ffrwyth.;
ni adawyd arni yr un gangen gref,
yn addas i deyrnwialen llywodraethwr.’
Galarnad yw hon, ac y mae i'w defnyddio'n alarnad.”

Dewis Presennol:

Eseciel 19: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda