Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD? Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud.” Ond dywedodd ef, “O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni.” Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, “Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld. Llefara di wrtho a gosod y geiriau yn ei enau, a rhof finnau help i'r ddau ohonoch i lefaru, a'ch dysgu beth i'w wneud. Bydd ef yn llefaru wrth y bobl ar dy ran; bydd ef fel genau iti, a byddi dithau fel Duw iddo yntau. Cymer y wialen hon yn dy law, oherwydd trwyddi hi y byddi'n gwneud yr arwyddion.”
Darllen Exodus 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 4:10-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos